Hansh: Blas Cyntaf

Lleisiau newydd a phob math o bynciau

About the show

Cyfle i chi greu podlediad ar gyfer Hansh. Rhywbeth newydd bob mis, am bob math o bynciau, gyda lleisiau newydd a diddorol. Syniad am bodlediad? Cysylltwch gyda ni!

Hansh: Blas Cyntaf on social media

Episodes

  • Ydy hi'n amser edrych ar sut i wella addysg hanes BAME mewn ysgolion?

    16 June 2020  |  24 mins 29 secs
    addysg, black lives matter, blm, cymraeg, education, hansh, marged parry, nia morais, s4c, welsh

    Nia Morais a Marged Parry sy'n trafod protestiadau BLM, hiliaeth yn yr ysgol a sut gall hanes BAME gael ei ddysgu'n well.

  • Cadw i Fynd gyda'r Chwiorydd EmpowerMe

    1 April 2020  |  21 mins 39 secs
    addunedau, blwyddyn newydd, chwiorydd empowerme, heledd watts, lowri watts, mentoriaid meddylfryd

    Yn dilyn eu podlediad ar addunedau blwyddyn newydd ym mis Ionawr, mae’r Chwiorydd EmpowerME yn ôl i sôn am sut i gadw i fynd a gwneud gwir newidiadau tymor hir i’n meddylfryd, ein bywydau a’n hapusrwydd. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o gymryd amser i edrych nôl, y ffyrdd gorau i gadw ffocws ac yn rhoi tipiau ar sut i gadw i fynd pan ma’ pethau yn mynd yn anodd.

    Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref.

    Nodyn: Recordiwyd y podlediad cyn i’r canllawiau presennol o hunan-ynysu COVID-19 ddod yn weithredol.

  • Blwyddyn Newydd Dda gyda'r Chwirorydd EMpowerME: Addunedau

    24 January 2020  |  28 mins 55 secs
    addunedau, blwyddyn newydd, chwiorydd empowerme, heledd watts, lowri watts, metoriaid meddylfryd

    Oes pwrpas i addunedau blwyddyn newydd bellach? Sawl un sy’n cadw’i addunedau heibio i Ionawr gan wir neud newid i'w bywyd? Ydy ‘neud addunedau’n beth da neu’n beth drwg? Yn y podlediad yma mae'r mentoriaid meddylfryd Heledd a Lowri, y Chwiorydd EMpowerME, yn trafod manteision ac anfanteision addunedau blwyddyn newydd; pam eu bod yn methu, sut i ddewis yr addunedau cywir a sut mae’u cadw nhw; er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i’n meddylfryd a’n hapusrwydd. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref.

  • FFOTOPOD #1 - Daf a Rob

    20 December 2019  |  32 mins 40 secs

    Mae'r ffotograffwyr Dafydd Nant a Rob Holding yn siarad am technegau ac yn rhoi tips tynnu lluniau.

  • Nadolig Y Morgans

    19 December 2019  |  20 mins 32 secs
    carys morgan, ffion morgan, nadolig, teulu, y morgans

    Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda’r Morgans. Yn y podlediad yma ma’ Carys a Ffion o sianel youtube The Morgans yn trafod eu hoff a cas bethau am y Nadolig a sut ma’ nhw’n dathlu fel teulu. Beth yw eu hanrhegion gorau a gwaethaf? Oes rhaid gwisgo siwmper Nadolig dros yr ŵyl? A sut wnaeth Ffion ddanfon dad i A & E un 'Dolig? RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref!

  • Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini

    5 December 2019  |  20 mins 47 secs
    argyfwnghinsawdd, euogrwydd eco, extinction rebellion, ffion matthews, greta thunberg, heini evans

    Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai tynnu ei bys mas er mwyn i ni allu rhwystro’r argyfwng hinsawdd. Ydi e’n iawn i deimlo ‘euogrwydd eco’? Dyle ni gyd fod fel Greta Thunberg? A beth sy’n apelio am Extinction Rebellion? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi!

  • Cysgu ("Awen" a "Sheila")

    25 October 2019  |  20 mins 44 secs

    Mae Awen (Caryl Bryn) a Sheila (Mared Llywelyn) yn mynd i helpu chi ymlacio a disgyn i gysgu yn y podlediad arbennig ASMRaidd yma.

  • Taith i'r Craidd

    24 October 2019  |  28 mins 5 secs
    nia, taith i'r craidd, tandem, tina evans

    Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i 'limits'a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.

  • Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?

    27 September 2019  |  24 mins 41 secs
    bagpipes, creadigrwydd, creu sh*t, dyfan lewis, steffan dafydd

    Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn i’r byd cyhoeddi DIY. Ond, a fydd yr holl ymbalfalu yma ym mhen Dyfan yn helpu Steffan i ddeall creadigrwydd yn well?

    RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi

  • Panad Parr #1 - Stacy Winson

    29 August 2019  |  31 mins 28 secs
    al parr, cymraeg, gay, hoyw, lgbt, panad, pride, traws, trawsrywiol

    Ymunwch ag Al Parr wrth iddo drio paneidiau gwahanol o de tra'n rhoi'r byd yn ei le. Yn y bennod gyntaf ei westai ydi Stacey Winson.

  • Rhywlediad Hansh gyda Elin a Katie

    22 August 2019  |  23 mins 38 secs
    elin meredydd, katie hall, peli siglo, rhyw

    Ydyn ni’n siarad digon am ryw yng Nghymru? Yn y podlediad hwn ma’ Elin Meredydd a Katie Hall yn trafod un o’u hoff bynciau - rhyw: Gan rannu eu straeon a’u profiadau personol mewn ffordd agored ac weithiau graffig. Mae’r sgwrs rywiol amrywiol yn neidio o ddirgrynwyr i siâp y serfics, o iechyd rhywiol i beli siglo ac mae gan Elin rhywbeth go arbennig i ddangos i Katie.

    RHYBUDD: MAE’R PODLEDIAD HWN YN CYNNWYS PYNCIAU GRAFFIG AEDDFED AC IAITH GREF SYDD YN ANADDAS I BLANT A GWRANDAWYR IFANC

    Do we talk about sex enough in Wales? In this podcast Elin Meredydd and Katie Hall chat about one of their favourite topics - sex: sharing personal stories and experiences in an open and sometimes graphic manner. The varied sex-themed dicussion leaps from vibrators to the shape of the cervix, from sexual health to jiggle balls and Elin has something special to show Katie.

    WARNING: THIS PODCAST CONTAINS MATURE GRAPHIC THEMES AND LANGUAGE WHICH IS UNSUITABLE FOR CHILDREN AND YOUNGER LISTENERS

  • Hollol Nyts....gyda Meleri ac Anna

    5 July 2019  |  18 mins 28 secs
    alergedd, anna hughes, epipen, hawdd holi, meleri williams

    Bydd chwarter ohonon ni yn cael ein heffeithio gan alergedd rhywbryd yn ystod ein bywyd. Yn y podlediad hwn bydd Meleri ac Anna yn trafod y pwnc, yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi tips ar beth i neud os oes alergedd (neu fod chi’n meddwl bod alergedd) gyda chi.

    Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth

    A quarter of us will be affected by an allergy at some point in our lives. In this podcast Meleri and Anna discuss allergies and share their experiences and tips about what to do if you have (or think you have) an allergy.

    For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help